1 Brenhinoedd 15:10-13 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

10. Teyrnasodd am un mlynedd a deugain yn Jerwsalem, a Maacha merch Abisalom oedd enw ei fam.

11. Gwnaeth Asa yr hyn oedd yn uniawn yng ngolwg yr ARGLWYDD, yr un fath รข'i dad Dafydd.

12. Trodd buteinwyr y cysegr allan o'r wlad a symud ymaith yr eilunod a wnaeth ei ragflaenwyr.

13. At hyn fe ddiswyddodd ei fam Maacha o fod yn fam frenhines, am iddi lunio ffieiddbeth ar gyfer Asera. Drylliodd Asa ei delw a'i llosgi yn nant Cidron.

1 Brenhinoedd 15